Y Salmau 80:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Y baedd o'r coed a'i turia, a bwystfil y maes a'i pawr.

14. O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o'r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â'r winwydden hon;

15. A'r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â'r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.

16. Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.

17. Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.

18. Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.

19. O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Y Salmau 80