7. Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
8. Na chofia yr anwireddau gynt i'n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y'n gwnaethpwyd.
9. Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
10. Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd.
11. Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
12. A thâl i'n cymdogion ar y seithfed i'w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y'th gablasant di, O Arglwydd.
13. A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.