3. Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a'u claddai.
4. Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.
5. Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?
6. Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni'th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.
7. Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
8. Na chofia yr anwireddau gynt i'n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y'n gwnaethpwyd.