Y Salmau 79:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau.

2. Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.

3. Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a'u claddai.

4. Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.

Y Salmau 79