Y Salmau 78:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant:

6. Fel y gwybyddai yr oes a ddĂȘl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau:

7. Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:

8. Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw.

Y Salmau 78