5. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant:
6. Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau:
7. Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
8. Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw.
9. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10. Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
11. Ac anghofiasant ei weithredoedd a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
12. Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
13. Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pentwr.
14. Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
15. Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16. Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17. Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18. A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19. Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20. Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i'w bobl?
21. Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22. Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: