Y Salmau 78:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;

22. Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:

23. Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,

24. A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.

Y Salmau 78