1. Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o'r cynfyd:
3. Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddĂȘl foliant yr Arglwydd, a'i nerth, a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
5. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant: