Y Salmau 77:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9. A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

10. A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

11. Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

Y Salmau 77