7. Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
8. A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
9. A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.
10. A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
11. Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.
12. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
13. Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr รข'n Duw ni?
14. Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.