Y Salmau 77:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

18. Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

19. Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

20. Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Y Salmau 77