Y Salmau 73:25-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi.

26. Pallodd fy nghnawd a'm calon: ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd.

27. Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.

28. Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.

Y Salmau 73