Y Salmau 73:10-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

11. Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12. Wele, dyma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.

13. Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14. Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.

15. Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16. Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;

17. Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18. Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.

19. Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.

20. Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt.

21. Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y'm pigwyd yn fy arennau.

22. Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o'th flaen di.

23. Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.

24. A'th gyngor y'm harweini; ac wedi hynny y'm cymeri i ogoniant.

Y Salmau 73