Y Salmau 73:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

11. Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12. Wele, dyma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.

13. Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14. Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.

Y Salmau 73