Y Salmau 72:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

7. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear.

9. O'i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.

10. Brenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

11. Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.

12. Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.

13. Efe a arbed y tlawd a'r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14. Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15. Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16. Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

17. Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wynfydedig.

Y Salmau 72