Y Salmau 72:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Tra fyddo haul a lleuad y'th ofnant, yn oes oesoedd.

6. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

7. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear.

9. O'i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.

10. Brenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

Y Salmau 72