3. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.
4. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
5. Tra fyddo haul a lleuad y'th ofnant, yn oes oesoedd.
6. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
7. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
8. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear.
9. O'i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.
10. Brenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
11. Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.
12. Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
13. Efe a arbed y tlawd a'r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
14. Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
15. Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.