8. Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.
9. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
10. Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn; a'r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
11. Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
12. O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i'm cymorth.
13. Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
14. Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwyfwy.
15. Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a'th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
16. Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
17. O'm hieuenctid y'm dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
18. Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo.
19. Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti?
20. Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.