Y Salmau 71:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o'm hieuenctid.

6. Wrthyt ti y'm cynhaliwyd o'r bru; ti a'm tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.

7. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8. Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.

9. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.

10. Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn; a'r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,

11. Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.

12. O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i'm cymorth.

13. Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14. Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwyfwy.

Y Salmau 71