4. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a'r traws.
5. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o'm hieuenctid.
6. Wrthyt ti y'm cynhaliwyd o'r bru; ti a'm tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
7. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.