Y Salmau 71:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.

21. Amlhei fy mawredd, ac a'm cysuri oddi amgylch.

22. Minnau a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti รข'r delyn, O Sanct Israel.

23. Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24. Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Y Salmau 71