Y Salmau 71:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.

17. O'm hieuenctid y'm dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18. Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo.

19. Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti?

Y Salmau 71