Y Salmau 71:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i'm cymorth.

13. Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14. Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwyfwy.

15. Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a'th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.

16. Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.

17. O'm hieuenctid y'm dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18. Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo.

19. Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti?

20. Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.

21. Amlhei fy mawredd, ac a'm cysuri oddi amgylch.

22. Minnau a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â'r delyn, O Sanct Israel.

23. Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24. Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Y Salmau 71