Y Salmau 71:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na'm cywilyddier byth.

2. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.

3. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a'r traws.

Y Salmau 71