Y Salmau 7:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.

9. Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a'r arennau.

10. Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.

11. Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.

Y Salmau 7