Y Salmau 69:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a'm cywilydd, a'm gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20. Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.

21. Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched รข finegr.

22. Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'u llwyddiant yn dramgwydd.

23. Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i'w llwynau grynu bob amser.

24. Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25. Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.

26. Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.

27. Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i'th gyfiawnder di.

Y Salmau 69