Y Salmau 68:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:

8. Y ddaear a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.

9. Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blino.

10. Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11. Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.

Y Salmau 68