Y Salmau 68:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela:

33. Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

34. Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.

35. Ofnadwy wyt, O Dduw, o'th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i'r bobl. Bendigedig fyddo Duw.

Y Salmau 68