28. Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.
29. Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.
30. Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig รข darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.
31. Pendefigion a ddeuant o'r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw.