Y Salmau 68:24-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr.

25. Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.

26. Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

27. Yno y mae Benjamin fychan â'u llywydd, tywysogion Jwda â'u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.

28. Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

29. Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.

30. Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.

31. Pendefigion a ddeuant o'r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw.

32. Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela:

33. Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

34. Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.

Y Salmau 68