Y Salmau 68:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o'i flaen ef.

2. Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw.

3. Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd.

4. Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a'i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef.

5. Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd.

6. Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir.

7. Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:

8. Y ddaear a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.

9. Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blino.

10. Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11. Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.

12. Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail.

13. Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.

Y Salmau 68