Y Salmau 66:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.

16. Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17. Llefais arno â'm genau, ac efe a ddyrchafwyd â'm tafod.

18. Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.

19. Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.

Y Salmau 66