Y Salmau 66:11-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Dygaist ni i'r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.

12. Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13. Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,

14. Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15. Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.

16. Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17. Llefais arno â'm genau, ac efe a ddyrchafwyd â'm tafod.

18. Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.

19. Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.

Y Salmau 66