1. Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear:
2. Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
3. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.
4. Yr holl ddaear a'th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i'th enw. Sela.
5. Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
6. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
7. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.