Y Salmau 63:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.

9. Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.

10. Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.

11. Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

Y Salmau 63