Y Salmau 63:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.

5. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6. Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.

7. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.

8. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.

Y Salmau 63