2. Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi.
3. Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a'm gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a'm llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a'i wirionedd.
4. Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a'u tafod yn gleddyf llym.
5. Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
6. Darparasant rwyd i'm traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o'm blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.
7. Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
8. Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
9. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.