Y Salmau 55:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

7. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

8. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a'r dymestl.

9. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

10. Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

Y Salmau 55