Y Salmau 50:9-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.

10. Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

11. Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.

12. Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a'i gyflawnder sydd eiddof fi.

13. A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?

14. Abertha foliant i Dduw; a thâl i'r Goruchaf dy addunedau:

15. A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.

16. Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?

17. Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl.

18. Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a'th gyfran oedd gyda'r godinebwyr.

19. Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th dafod a gydbletha ddichell.

20. Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21. Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyhoeddaf, ac a'u trefnaf o flaen dy lygaid.

22. Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.

23. Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.

Y Salmau 50