Y Salmau 5:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod.

2. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddïaf.

3. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.

4. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.

5. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.

Y Salmau 5