Y Salmau 47:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.

2. Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.

3. Efe a ddwg y bobl danom ni, a'r cenhedloedd dan ein traed.

4. Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.

5. Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.

6. Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.

Y Salmau 47