1. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.
2. Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
3. Efe a ddwg y bobl danom ni, a'r cenhedloedd dan ein traed.
4. Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.
5. Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.