Y Salmau 45:7-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.

8. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o'r palasau ifori, â'r rhai y'th lawenhasant.

9. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10. Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.

11. A'r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

12. Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.

Y Salmau 45