1. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i'r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
2. Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y'th fendithiodd Duw yn dragywydd.
3. Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, รข'th ogoniant a'th harddwch.