9. Ond ti a'n bwriaist ni ymaith, ac a'n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda'n lluoedd.
10. Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.
11. Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.
12. Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'u gwerth hwynt.
13. Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.
14. Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.
15. Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm todd:
16. Gan lais y gwarthruddwr a'r cablwr; oherwydd y gelyn a'r ymddialwr.
17. Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni'th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.
18. Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o'th lwybr di;
19. Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau.
20. Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:
21. Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
22. Ie, er dy fwyn di y'n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i'w lladd.
23. Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.
24. Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a'n gorthrymder?
25. Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.
26. Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.