Y Salmau 42:5-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Paham, fy enaid, y'th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.

6. Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Misar.

7. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi,

Y Salmau 42