Y Salmau 40:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.

8. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9. Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a'i gwyddost.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a'th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.

11. Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a'th wirionedd fi byth.

12. Canys drygau annifeiriol a'm cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.

13. Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu: brysia, Arglwydd, i'm cymorth.

Y Salmau 40