Y Salmau 40:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.

4. Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.

5. Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6. Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist.

7. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.

8. Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9. Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a'i gwyddost.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a'th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.

Y Salmau 40