Y Salmau 40:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain.

2. Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.

3. A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.

Y Salmau 40