Y Salmau 4:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.

5. Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd.

6. Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.

7. Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na'r amser yr amlhaodd eu hŷd a'u gwin hwynt.

8. Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Y Salmau 4